• Home
  • English
    • About
    • Info
    • Results & Photos
    • Other Events
  • Cymraeg
    • Amdan
    • Gwybodaeth
    • Canlyniadau & Lluniau
    • Digwyddiadau Eraill
  Trailffest
Picture

27 MEDI 2025

Enter Online
AMDAN
GWYLWYR
CWRS y rās
MANYLION Y rās
GWOBREUON
MYNEDIAD
 

​AMDAN YR HANNER MARATHON

Mae cwrs ras hanner marathon Trailffest yn un o'r mwyaf prydferth gyda newidiadau dramatig mewn golygfeydd a tirwedd ar hyd y ffordd.

Gyda'r cychwyn 710 troedfedd i fyny yn y mynyddoedd, a'r diwedd i lawr ar lefel y mor mi fasa rhywun yn gallu meddwl bod hon am fod yn ras hawdd - ond dim felly mae hi! 

Mae'r antur yn cychwyn yn Blaenau Ffestiniog yng nghesail y Moelwynion ac yn gorffen ger y mor yn Porthmadog. 

Gan gychwyn yn sgwar Diffwys yng nghanol Blaenau mi fydd y ras yn eich tywys heibio'r gweithfeydd llechi ac yna ymlaen i lawr Dyffryn Maentwrog, trwy tir agored i mewn i'rcoedwigoedd naturiol hyfryd ac ymlaen i mewn i'r planhigfeydd coed pin cyn cyrraedd llwybrau ar gyrion pentre Penrhyndeudraeth.

Wedi darn byr o darmac ar ffordd gwaelod Minffordd mae eich her yn gorffen ar ben y Cob gyda golygfa wych i'r Dde o'r Wyddfa, Cnicht a'r Moelwynion a'r mor i'r chwith.
 

​CWRS Y rās​

Mae llwybr y ras rhwng Penrhyndeudraeth a Minffordd (milltir 10.5 - 11.5) ar dir preifat, ac mae'r perchennog yn caniatau mynediad ar ddiwrnod y ras yn unig.  Peidiwch a defnyddio y darn yma ar gyfer ymarfer cyn y ras. Mae tresbasu yma yn peryglu dyfodol y ras.
Picture
 

GWYLWYR, TEULU & FFRINDIAU

Mi fydd Tren y Ras yn cael ei darparu i fynd a'r cystadleuwyr o ganolfan y digwyddiad yn Porthmadog i fyny i gychwyn y ras yn Tanygrisiau. Mae costau y dren wedi ei gynnwys yn eich tal cofrestru.   

Mae'r siwrna ar y dren i fynny i Tanygrisiau yn cymryyd tua 1 awr 10 munud.

Os y bydd angen mi fydd  Rheilffordd Ffestiniog yn darparu tren arall er mwyn gwylwyr, teulu a ffrindiau y rhai sydd yn cymeryd rhan fynd i wylio y ras.  Mae tocynnau i'r dren yma - Tren Teulu a Ffrindiau - i'w cael am drydydd y pris arferol gan gysylltu a'r swyddfa tocynnau ar 01766 516024 a rhoi'r côd TRUN.  Mae pob rhedwr yn gallu prynu hyd at 3 tocyn ar y pris arbennig hwn.

Wedi cyrraedd Tanygrisiau mi fydd yn rhaid i'r gwylwyr ddadlwytho oddiar  Tren Teulu & Ffrindiau a  llwytho ar Dren y Ras er mwyn dilyn y rhedwyr ar ei taith.

Mi fydd Tren y Ras yn cael nifer o arhosiadau byr ar y siwrne i lawr er mwyn cael ambell gyfle ambell gyfle i wylio'r rhedwyr gan gynnwys y safle bwydo i'r ras yn Tan-y-Bwlch.

Safleoedd bwydo Rheilffordd Ffestiniog -

Tan y Bwlch - tua 4 milltir
Fferm Rhiw Goch - tua 8 milltir
Gorsaf Minffordd - tua 11 milltir

Mi fydd dwr, diod 'electrolyte', bananas, fflapjacs a bariau egni ar gael yn Tan-y-Bwlch a Rhiw Goch a mi fydd safle dwr ychwanegol yn Minffordd os yw y diwrnod yn un poeth.

Porthmadog 
Blaenau Ffestiniog
Picture
Porthmadog town map
 

MANYLION Y rās

Oherwydd llai o drenau yn rhedeg blwyddyn yma mae amseroedd y ras yn cael ei newid:
DYDD SADWRN MEDI 29
09:00    Cofrestru yn agor
11:20    Cofrestru yn cau
11:30    Tren yn gadael Porthmadog
12:55    Tren yn cyrraedd yn Blaenau
13:20    Tren yn symud i lle cychwyn
13:40    Cychwyn y ras
15:00    Ennillydd y ras yn cyrraedd Porthmadog (bras amcan)
17:00    Gwobrwyo


Mi fydd cofrestru a gwobrwyo yn Gorsaf Rheilffordd Ffestiniog, Porthmadog
 

GWOBREUON

Bydd gwobreuon yn cael eu darparu fel a ganlyn:

Dynion Agored  - 1af  |  2il   | 3ydd
Merched Agored - 1af  |  2il  | 3ydd

1af D 40 / 1af M40
1af D 50 / 1af M 50
1af D 60 / 1af M 60

GWOBREUON SPOT 

Mi fydd y gwobreuo spot yn cael ei gynnal ar ffurf raffl o'ch rhif ras yn ystod y seremoni gwobreuo. I gael cyfle i ennill rhoddwch eich rhif yn y bocs ar ddiwedd y ras...
  • Tocyn teulu ar Rheilffordd Ucheldir Cymru Porthmadog - Caernarfon - Porthmadog
  • Bocsys o Mws Piws
  • Gwobrau gan Run a Crib Goch Outdoors
 


TAL MYNEDIAD

Yn cynnwys tren i gychwyn y ras, crys-T, bag rhoddion:
​

​GYDA AELODAETH Y CLWB £37
DI-AELODAETH £39
Cofrestru
Trailffest is kindly supported by:
Mws Piws
Ffestiniog Railway
Ffestiniog & Welsh Highland Railways
Travis Perkins
Bodywyrcs
Oren Foods
  • Home
  • English
    • About
    • Info
    • Results & Photos
    • Other Events
  • Cymraeg
    • Amdan
    • Gwybodaeth
    • Canlyniadau & Lluniau
    • Digwyddiadau Eraill