Mae cwrs ras hanner marathon Trailffest yn un o'r mwyaf prydferth gyda newidiadau dramatig mewn golygfeydd a tirwedd ar hyd y ffordd.
Gyda'r cychwyn 710 troedfedd i fyny yn y mynyddoedd, a'r diwedd i lawr ar lefel y mor mi fasa rhywun yn gallu meddwl bod hon am fod yn ras hawdd - ond dim felly mae hi!
Mae'r antur yn cychwyn yn Blaenau Ffestiniog yng nghesail y Moelwynion ac yn gorffen ger y mor yn Porthmadog.
Gan gychwyn yn sgwar Diffwys yng nghanol Blaenau mi fydd y ras yn eich tywys heibio'r gweithfeydd llechi ac yna ymlaen i lawr Dyffryn Maentwrog, trwy tir agored i mewn i'rcoedwigoedd naturiol hyfryd ac ymlaen i mewn i'r planhigfeydd coed pin cyn cyrraedd llwybrau ar gyrion pentre Penrhyndeudraeth.
Wedi darn byr o darmac ar ffordd gwaelod Minffordd mae eich her yn gorffen ar ben y Cob gyda golygfa wych i'r Dde o'r Wyddfa, Cnicht a'r Moelwynion a'r mor i'r chwith.

Mi fydd Tren y Ras yn cael ei darparu i fynd a'r cystadleuwyr o ganolfan y digwyddiad yn Porthmadog i fyny i gychwyn y ras yn Tanygrisiau. Mae costau y dren wedi ei gynnwys yn eich tal cofrestru.
Mae'r siwrna ar y dren i fynny i Tanygrisiau yn cymryyd tua 1 awr 10 munud.
Os y bydd angen mi fydd Rheilffordd Ffestiniog yn darparu tren arall er mwyn gwylwyr, teulu a ffrindiau y rhai sydd yn cymeryd rhan fynd i wylio y ras. Mae tocynnau i'r dren yma - Tren Teulu a Ffrindiau - i'w cael am drydydd y pris arferol gan gysylltu a'r swyddfa tocynnau ar 01766 516024 a rhoi'r côd TRUN1. Mae pob rhedwr yn gallu prynu hyd at 3 tocyn ar y pris arbennig hwn.
Wedi cyrraedd Tanygrisiau mi fydd yn rhaid i'r gwylwyr ddadlwytho oddiar Tren Teulu & Ffrindiau a llwytho ar Dren y Ras er mwyn dilyn y rhedwyr ar ei taith.
Mi fydd Tren y Ras yn cael nifer o arhosiadau byr ar y siwrne i lawr er mwyn cael ambell gyfle ambell gyfle i wylio'r rhedwyr gan gynnwys y safle bwydo i'r ras yn Tan-y-Bwlch.
Safleoedd bwydo Rheilffordd Ffestiniog -
Tan y Bwlch - tua 4 milltir
Fferm Rhiw Goch - tua 8 milltir
Gorsaf Minffordd - tua 11 milltir
Mi fydd dwr, diod 'electrolyte', bananas, fflapjacs a bariau egni ar gael yn Tan-y-Bwlch a Rhiw Goch a mi fydd safle dwr ychwanegol yn Minffordd os yw y diwrnod yn un poeth.
Porthmadog
Blaenau Ffestiniog

Oherwydd llai o drenau yn rhedeg blwyddyn yma mae amseroedd y ras yn cael ei newid:
DYDD SADWRN MEDI 28
09:00 Cofrestru yn agor
11:20 Cofrestru yn cau
11:25 Tren yn gadael Porthmadog
12:40 Tren yn cyrraedd yn Blaenau
13:10 Tren yn symud i lle cychwyn
13:15 Cychwyn y ras
14:35 Ennillydd y ras yn cyrraedd Porthmadog (bras amcan)
16:45 Gwobrwyo
Mi fydd cofrestru a gwobrwyo yn Gorsaf Rheilffordd Ffestiniog, Porthmadog

Bydd gwobreuon yn cael eu darparu fel a ganlyn:
Dynion Agored - 1af | 2il | 3ydd
Merched Agored - 1af | 2il | 3ydd
1af D 40 / 1af M40
1af D 50 / 1af M 50
1af D 60 / 1af M 60
GWOBREUON SPOT
Mi fydd y gwobreuo spot yn cael ei gynnal ar ffurf raffl o'ch rhif ras yn ystod y seremoni gwobreuo. I gael cyfle i ennill rhoddwch eich rhif yn y bocs ar ddiwedd y ras...

- Tocyn teulu ar Rheilffordd Ucheldir Cymru Porthmadog - Caernarfon - Porthmadog
- Bocsys o Mws Piws
- Gwobrau gan Run a Crib Goch Outdoors
Yn cynnwys tren i gychwyn y ras, crys-T, bag rhoddion:
GYDA AELODAETH Y CLWB £35
DI-AELODAETH £37
GYDA AELODAETH Y CLWB £35
DI-AELODAETH £37